Mae’r Bunkhouse yn fan cerddoriaeth sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn ganolfan gymunedol sydd wedi’i leoli yng nghefn strydoedd bywiog canol dinas Abertawe.
​
Ers ei agor yn 2017, mae’r Bunkhouse wedi darparu llwyfan unigryw i artistiaid lleol sy’n dod i’r amlwg, perfformwyr enwog ac actau mawr ar deithiau, gan sefydlu ei le fel carreg sylfaenol ym myd cerddoriaeth De Cymru.
​
Sefydlwyd y Bunkhouse gan grŵp o selogion cerddoriaeth gyda gweledigaeth gyffredin; crëwyd y lle hwn i fod yn fwy na lleoliad yn unig. Fe’i sefydlwyd fel lle ble gallai artistiaid ddod o hyd i gartref, datblygu eu crefft, a chael cefnogaeth gan gymuned ymroddedig. Mewn dim ond ychydig o flynyddoedd, rydym wedi tyfu o ddechrau uchelgeisiol i fod yn fan enwog sydd wedi ennill gwobrau, ac rydym yn cael ein hadnabod am greu profiadau bythgofiadwy i artistiaid a chynulleidfaoedd.
​
Mae gan y Bunkhouse ddwy lwyfan unigryw:
Y Llwyfan Bar Stryd y Parc: Mae ein llwyfan mwy agos-atoch yn cynnal nosweithiau jazz, sioeau comedi, darlleniadau barddoniaeth, perfformiadau acwstig, a setiau DJ. Mae’n berffaith ar gyfer nosweithiau hamddenol a phartïon ar ôl gigiau. Mae’r gofod clyd hwn yn meithrin cysylltiadau agos rhwng artistiaid a’u cynulleidfaoedd.
Prif Lwyfan y Kingsway: Yn nghanol ein lleoliad enwog, mae’r llwyfan hwn wedi croesawu bandiau rhyngwladol, DJiaid bywiog, ac actau lleol addawol.
Dyma ble mae’r sîn gerddoriaeth yn Abertawe yn dod yn fyw, gan gynnig awyrgylch drydanol sy’n cael ei garu gan gefnogwyr ac artistiaid fel ei gilydd.
Yn 2024, sicrhawyd dyfodol y Bunkhouse pan ddaeth yn lleoliad cyntaf yng Nghymru i gael ei brynu o dan fenter #OwnOurVenues yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth. Nawr wedi’i osod o dan statws diwylliannol gwarchodedig parhaol, bydd y Bunkhouse yn parhau i wasanaethu fel canolfan greadigol i genedlaethau’r dyfodol, diolch i gefnogaeth ein cymuned.
​
Y tu hwnt i gynnal digwyddiadau, mae’r Bunkhouse wedi ymrwymo i ehangu mynediad at gerddoriaeth ac addysg. Rydym yn trefnu sioeau allanol ar draws y rhanbarth, gan ddod â phrofiad y Bunkhouse i gynulleidfaoedd ehangach. Mae ein tîm hefyd yn arwain gweithdai a sesiynau hyfforddi, gan rymuso doniau newydd a meithrin sgiliau ym maes perfformio, cynhyrchu cerddoriaeth a rheoli digwyddiadau.
P’un a yw drwy berfformiadau byw, sioeau allanol, neu raglenni addysgol, mae ein cenhadaeth yn aros yr un fath: i feithrin a dathlu cerddoriaeth ym mhob un o’i ffurfiau.
​
Diolch am fod yn rhan o daith y Bunkhouse – edrychwn ymlaen at greu mwy fyth o hanes cerddorol gyda’n gilydd.